Dangosiadau hygyrch
Beth yw’r rhain?
Mae Dangosiadau sy’n addas ar gyfer Awtistiaeth yn ddangosiadau sydd wedi eu haddasu’n gynnil i greu amgylchedd sy’n groesawgar i bobl sydd ag ystod o gyflyrau megis awtistiaeth, anableddau dysgu ac anrhefn wybyddol. Mae’r lefelau sain wedi eu lleihau ynddynt, y golau wedi ei adael arno ar lefel isel ac nid oes unrhyw hysbysluniau ar ddechrau’r ffilm. Gall mynychwyr ddod â bwyd a diod eu hun i’r sinema, gallant fod yn swnllyd ac eistedd ble bynnag sydd fwyaf cysurus iddynt. Ar gyfer y dangosiadau hyn ni allwch gadw seddau penodol a fe fydd ystafell dawel ar gael cyferbyn â’r awditoriwm os oes angen i unrhyw un ei defnyddio.
Dangosiad hamddenol nesaf -
TRANSFORMERS ONE (PG) Dydd Sadwrn 19 Hydref @ 1.15pm
DESPICABLE ME 4 (U) Dydd Mawrth 29 Hydref @ 2.00pm
Paddington In Peru (PG TBC) Dydd Sadwrn 7 Rhagfyr @ 2.15pm
Sonic The Hedgehog 3 (PG TBC) Dydd Sul 19 Ionawr @ 1.00pm
Dog Man (PG TBC) Dydd Sadwrn 1 Mawrth @ 12.15pm
DDANGOSIADAU GYDAG ISDEITLAU
Beth yw’r rhain?
Mae dangosiadau gydag isdeitlau/capsiynau yn darparu trawsgrifiad o’r sain mewn ffilm, wedi ei arddangos ar hyd gwaelod y sgrin sinema. Ynghyd â deialog y ffilm, mae’r is-deitlau’n cynnwys sain nad yw’n ddeialog megis “(mae’n ochneidio)” neu “(drws yn gwichian)”.
Pwy all elwa o’r rhain?
Pobl sy’n Drwm eu Clyw
Ddangosiadau nesaf gydag isdeitlau yw:
Tranformers One (PG) Nos Sul 20 Hydref @ 6.45pm
Joker: Folie A Deux (15) Nos Wener 25 Hydref @ 7.15pm
The Wild Robot (U) Dydd Llun 28 Hydref @ 4.15pm
Salem's Lot (15) Nos Fawrth 29 Hydref @ 7.15pm
Megalopolis (15) Nos Fawrth 5 Tachwedd @ 7.00pm
Venom: The Last Dance (15) Nos Fawrth 12 Tachwedd @ 7.15pm
Paddington In Peru (PG) Nos Fawrth 19 Tachwedd @ 6.30pm
Gladiator II (15) Nos Fercher 27 Tachwedd @ 7.45pm
Wicked (PG) Nos Fercher 4 Rhagfyr @ 7.00pm
Moana 2 (PG TBC) Nos Sul 8 Rhagfyr @ 6.45pm
Red One (12A) Nos Fercher 11 Rhagfyr @ 7.30pm
Conclave (12A) Nos Fawrth 17 Rhagfyr @ 6.45pm
Anora (18) Nos Fercher 18 Rhagfyr @ 7.00pm
LOTR: The War Of The Rohirrim (12A TBC) Nos Lun 23 Rhagfyr @ 7.45pm
Mufasa: The Lion King (U TBC) Nos Iau 2 Ionawr @ 7.30pm
Kraven The Hunter (15 TBC) Nos Fercher 8 Ionawr @ 8.00pm
We Live In Time (15 TBC) Nos Fawrth 14 Ionawr @ 7.45pm
Sonic The Hedgehog 3 (PG TBC) Nos Iau 16 Ionawr @ 6.30pm
Nosferatu (15 TBC) Nos Fawrth 21 Ionawr @ 7.00pm
A Complete Unknown (15 TBC) Nos Sul 26 Ionawr @ 7.45pm
A Real Pain (15 TBC) Nos Fawrth 28 Ionawr @ 7.45pm
Babygirl (15 TBC) Nos Fercher 29 Ionawr @ 7.15pm
In The Grey (15 TBC) Nos Fercher 5 Chwefror @ 7.15pm
Mickey 17 (15 TBC) Dydd Sul 9 Chwefror @ 1.15pm
Dog Man (PG TBC) Nos Sul 16 Chwefror @ 6.15pm
Captain America: Brave New World (12A TBC) Nos Fawrth 25 Chwefror @ 7.30pm
The Smurfs Movie (U TBC) Dydd Mawrth 4 Mawrth @ 5.00pm
Bridget Jones: Mad About The Boy (15 TBC) Nos Fercher 5 Mawrth @ 8.15pm
Nodwch os gwelwch yn dda, nad oes isdeitlau ar gael ar bob ffilm, ond ble bynnag y mae’n bosibl rydym yn anelu at geisio dangos o leiaf un ffilm â chanddi isdeitlau o’r ffilmiau hynny sydd wedi eu hisdeitlo.
DANGOSIADAU SAIN DDISGRIFIO
(Ar hyn o bryd nid oes cyfleuster ar gyfer sain ddisgrifioym Mwldan 3)
Beth yw’r rhain?
Bydd dangosiadau sain ddisgrifio yn darparu sylwebaeth leisiol sydd wedi recordio o flaen llaw sy’n disgrifio nodweddion megis y cyffro, iaith gorfforol, mynegiadau a symudiadau yn ystod y ffilm. Mae’r sylwebaeth yn ffitio o fewn y seibiau tawel yn y ffilm, fel nad yw’n torri ar draws y deialog. Mae’n drac sain ar wahân caiff ei ddarlledu trwy glustffonau diwifr, a dim ond y person sy’n eu gwisgo bydd yn ei glywed.
Siaradwch â’n Swyddfa Docynnau oes bydd angen clustffonau arnoch.
Am fwy o wybodaeth am hyn cyfeiriwch at: http://www.rnib.org.uk
Pwy all elwa o’r rhain?
Pobl â nam ar eu golwg. Mae Sain Atgyfnerthu ar gael ar ein holl ddangosiadau sinema a’n digwyddiadau darlledu byw.
Byddwch yn ymwybodol, nid yw ein gwasanaeth Sain Ddisgrifio ar gael ar hyn o bryd ym Mwldan 1. Rydym yn gweithio'n galed i ddatrys y mater hwn cyn gynted ag y gallwn.
Am fwy o wybodaeth cyfeiriwch at http://www.dimensions-uk.org/support-services/autism-care/autism-friendly-screenings/
DANGOSIADAU SAIN ATGYFNERTHU
(Ar hyn o bryd nid oes cyfleuster ar gyfer atgyfnerthu sain ym Mwldan 3)
Beth yw hwn?
Mae Sain Atgyfnerthu yn gyfleuster sy’n atgyfnerthu trac sain y dangosiadau sinema trwy glustffonau. Mae hyn yn gweithredu yn lle’ch cymorth clyw.
Mae Sain Atgyfnerthu ar gael ar bob un o’n dangosiadau sinema - gofynnwch i’n swyddfa docynnau am glustffonau os hoffech wneud defnydd o’r gwasanaeth hwn.
Pwy all elwa o’r rhain?
Pobl sy’n Drwm eu Clyw.