ELIO (U TBC)

Adrian Molina | Madeline Sharafian | Domee Shi | USA | 2025 | tbc’

Ers canrifoedd, mae pobl wedi galw allan i'r bydysawd yn chwilio am atebion; yn y ffilm newydd hon gan Disney/Pixar mae'r bydysawd yn galw'n ôl! Mae gan Elio ddychymyg bywiog ac yn anfwriadol mae’n cael ei gludo i fyny i'r Communiverse, sefydliad rhyngblanedol gyda chynrychiolwyr o alaethau ymhell ac agos. Caiff ei gamgymryd fel llysgennad y Ddaear gan weddill y bydysawd, ac yntau’n gwbl amharod ar gyfer y math hwnnw o bwysau, rhaid i Elio ffurfio bondiau newydd gyda ffurfiau bywyd estron ecsentrig, goroesi cyfres o dreialon aruthrol a rhywsut darganfod pwy ydyw i fod mewn gwirionedd.

£8.40 (£7.70) (£5.90)

Caiff y ffilm hon ei dangos gydag isdeitlau ar Nos Iau 26 Mehefin @ 7.15pm