JULIET & ROMEO (12A)
Timothy Scott Bogart | Italy | USA | 122’
Yn Verona deg, lle mae ein stori wedi’i gosod,
Cawn stori serch fwyaf y byd, fel na welwyd erioed o'r blaen…
Ar daith epig o frwydrau a brad, wedi'i gosod yng nghanol genedigaeth y Dadeni yn yr Eidal a'r rhyfeloedd a fyddai'n dirwyn yr Oesoedd Canol i ben, paratowch i gariadon enwocaf y byd droi'r llanw ar hanes fel sy’n gyfarwydd i ni.
Gan adael barddoniaeth mesur pumban iambig yn y gorffennol ac yn llawn caneuon a cherddoriaeth wreiddiol gan yr Enillydd GRAMMY, Evan Kidd Bogart ("Halo" Beyonce / "SOS" Rihanna), mae'r fersiwn arloesol hwn ar y clasur theatrig yn cynnwys cast anhygoel gan gynnwys Rebel Wilson, Rupert Everett, Jason Isaacs, Rupert Graves a Derek Jacobi.
£8.40 (£7.70) (£5.90)