Hurio

Mae gennym amrywiaeth eang o gyfleusterau ar gael i’w hurio. Yn gyfarfod untro, yn ddosbarth wythnosol rheolaidd, yn gynhadledd gydag ystafelloedd ymneilltuo ar gyfer gweithdai, neu yn lleoliad hirdymor i fusnes, gallwn gynnig rhywbeth sy’n gweddu at eich anghenion. Cysylltwch â Victoria Goddard, Rheolwr Cyffredinol y Mwldan am argaeledd a phrisiau victoria@mwldan.co.uk

 

MWLDAN 1  awditoriwm gyda seddau i 146, gyda thafluniad digidol.

Yn berffaith i gyflwyniadau a chynadleddau.

 

MWLDAN 2  awditoriwm gyda seddau i 249, gyda thafluniad digidol, llwyfan cyflawn, cyfleusterau golau a sain.

Hyrwyddwch eich perfformiad byw, cyflwyniadau a chynadleddau eich hun!

 

MWLDAN 3  awditoriwm gyda seddau i 101, gyda thafluniad digidol.

Yn berffaith i gyflwyniadau a chynadleddau.

 

MWLDAN 4  stiwdio amlbwrpas sy’n mesur 9m x 9m. Yn berffaith ar gyfer dosbarthiadau ymarfer corff, ymarferiadau,

cyfarfodydd mawr, perfformiadau graddfa fechan a dawns ar gyfer hyd at 100 o bobl.

 

MWLDAN 5  stiwdio amlbwrpas llai ei maint sy’n mesur 9m x 4m. Yn berffaith ar gyfer dosbarthiadau dawns/ymarfer corff llai eu maint, cyfarfodydd,

ac fel ystafell ymneilltuo pan gaiff ei hurio ynghyd â Mwldan 4 neu 6.

 

MWLDAN 6  stiwdio ymarfer carpedog sy’n mesur 8.5m x 8.5m sy’n berffaith ar gyfer ymarferiadau,

cyfarfodydd a sesiynau rhiant/plant bach ar gyfer hyd at 100 o bobl. Mae cyfleusterau newid ar gael.

 

YSTAFELL GYFARFOD Y MWLDAN  ystafell gyfarfod breifat i hyd at 20 o bobl.

 

CANOLFAN BUSNES Y MWLDAN  Mae Gweithfannau a Gweithleoedd ar gael yn fyrdymor ac yn hirdymor - yn ôl yr awr, yn ddyddiol ac yn fisol.

Mae’r pecyn rhentu yn cynnwys: gwres, golau, trethi, yswiriant adeiladau, gwasanaethu, glanhau, system diogelwch, mynediad 24/7, derbynfa, cegin i rannu,

mynediad hygyrch, carpedi a dodrefn opsiynol. Ar gael yn ogystal - ystafell gyfarfod breifat i hyd at 10 person.

 

YSTAFELL THERAPI  ystafell breifat gyda ffenestri gwydr barugog, ardal ymgynghori a man ymarfer ar gael i’w

hurio yn ôl yr awr gan Therapyddion a Chynghorwyr. Mynediad anabl a pharcio.

 

Gellir darparu mynediad rhyngrwyd, offer cyflwyno a gwasanaethau arlwyo, o luniaeth syml i giniawau cyflawn ar gyfer y mannau uchod i gyd.

 

 

H