Catrin Finch & Seckou Keita (Cymru / Senegal)

CYD-GYNHYRCHIAD THEATR MWLDAN | ASTAR ARTES CO-PRODUCTION

 

Mae 2013 wedi bod yn flwyddyn ryfeddol i’r delynores Gymreig, Catrin Finch, a’r chwaraewr kora o Senegal, Seckou Keita. Enillwyr Albwm y Flwyddyn fRoots  gyda’u halbwm cyntaf Clychau Dibon, wedi eu henwebu am ddwy Wobr Werin BBC Radio 2 am y Deuawd Gorau a Thrac Traddodiadol Gorau, ac wedi eu cynnwys ymhlith deg albwm gorau 2013 Cylchgrawn Songlines, nid oes terfyn ar orchestion y pâr hyderus hwn o gerddorion meistrolgar y mae eu ‘cerddoriaeth nefolaidd...wedi ei gwireddu’n gelfydd’ (Cylchgrawn Songlines) a’u perthynas llwyfan amlwg yn herio cael ei chategoreiddio gan barhau i mewnffrwydro / uno  ffiniau rhwng arddulliau cerddoriaeth glasurol, byd, gwerin a thraddodiadol. 

Yn dynn ar sodlau ei chydweithrediadau dyfeisgar gyda Cimarron o Golombia a Toumani Diabate o Fali, mae Catrin Finch unwaith eto yn amlygu ei hysbryd cerddorol radical ac anturiaethus yn yr undod hwn o ddiwylliannau cerddorol Cymreig a Gorllewin Affricanaidd. Mae Seckou Keita yn aelod o dylwyth enwog o ‘grigots’ y Cissokho o Dde Senegal, sydd eisoes wedi asio ei kora ( telyn 21 tant Gorllewin Affrica) â jazz, ffync, roc, cerddoriaeth glasurol India a phob math o arddulliau cerddorol eraill.

Yn 2014 byddant yn ymddangos fel gwesteion ynghyd ag Eliza Carthy, Jim Moray a Chris Wood yn nathliadau pen-blwydd fRoots yn 35 mlwydd oed yn Neuadd y Frenhines Elisabeth ar Southbank Llundain ym mis Mawrth, cyn cychwyn ar daith fawr o Brydain ym mis Mai bydd yn cynnwys ymweld â Neuadd Usher yng Nghaeredin, Neuadd Bush yn Llundain a’r Sage Gateshead cyn dechrau ar y sîn gwyliau haf yn y DU a thramor.

Mae eu halbwm cyntaf wedi denu canmoliaeth feirniadol fawr a llu o adolygiadau 4* a 5* o’r cyfryngau Cenedlaethol a Diwydiant gyda Neil Spencer o’r cylchgrawn UNCUT yn ei ddisgrifio fel “"intricate, ethereal and entrancing, an elaborate pas-de-deux... remarkable" *****,  " a sublime duo of two artists who are masters of their instruments...musicality and architecture at work" Simon Broughton, London Evening Standard ***** , and ‘remarkable...an elegant, gently exquisite set". Robin Denselow, The Guardian ****

Peidiwch â cholli’ch cyfle i weld un o gydweithrediadau mwyaf dedwydd a chyffrous erioed i ddod o Gymru. 

Wedi ei noddi’n rhannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’r Llywodraeth Cymru, a’r Gyngor Celfyddydau Lloegr.

 

 

Browse more shows tagged with: