TIR PWY YDYW? HANES AMERICA MEWN STRAEON A CHANEUON | WHOSE LAND IS IT? AMERICAN HISTORY IN STORIES AND SONGS
Mae’n Ddiwrnod Martin Luther King ddydd Llun 15fed Ionawr, ac i‘w nodi byddwn yn cynnal cyfres o sgyrsiau am ein cymdogion ar draws y môr. Sgwrs am hanes cenedl America... straeon am ‘the way west’ a‘r heriau parhaus o greu gwlad i bawb. Bydd band lleol The History Boys yn darparu trac sain sy’n sail i lunio cenedl.
Sgwrs gan Russell Walker.
Cynhelir y digwyddiad hwn yn ardal oriel y Mwldan. Ceir meinciau eistedd yn y gofod hwn, gyda rhai cadeiriau â chefnau. Nid ydym yn cadw seddau ar gyfer y digwyddiadau hyn, felly rydym yn eich cynghori i gyrraedd yn gynnar os oes angen sedd gyda chefn arnoch.
Os oes gennych unrhyw broblemau hygyrchedd, cysylltwch â'n swyddfa docynnau (01239 621 200 /boxoffice@mwldan.co.uk).
£5