VRï 2022
CYNHYRCHIAD Y MWLDAN
Tri gŵr ifanc o berfeddion Cymru, gyda’i hanes hirfaith o fynychu’r capel yw VRï , sydd wedi mynd ati i gloddio i gynnwrf diwylliannol y canrifoedd diwethaf ac wedi cael eu hysbrydoli gan stori anhygoel cyfnod pan gafodd cerddoriaeth a dawns draddodiadol Cymru eu llethu gan gapeli’r Methodistiaid, ac, yn gynharach, ei hiaith gan y Ddeddf Uno. Fel archaeolegwyr sain, mae VRï wedi darganfod perlau hirgolledig sy’n taflu goleuni newydd ar draddodiad gwerin bywiog sy’n harneisio egni amrwd y ffidil gyda cheinder y feiolin, harddwch cerddoriaeth siambr gyda llawenydd a phleserau sesiwn dafarn. Mae eu caneuon, a genir gyda harmonïau lleisiol pwerus, yn adrodd straeon am y bobl oedd yn brwydro 200 mlynedd yn ôl, yn yr un modd ag y mae llawer yn brwydro heddiw. Mae’n seinwedd hyfryd ac unigryw sy’n cysylltu ar draws y canrifoedd i roi ymdeimlad o berthyn, o gymuned i ni, a theimlad hudolus o ddiffyg pwysau a rhyddid dyrchafol.
Derbyniodd albwm cyntaf VRï yn 2019 ‘Tŷ Ein Tadau’ (House Of Our Fathers) adolygiad 5* yng nghylchgrawn Songlines a nifer o wobrau, enwebiadau a llwyddiannau. Caiff eu halbwm newydd islais a genir ei ryddhau ar label bendigedig ym mis Hydref 2022.
VRï yw Jordan Price Williams (sielo, llais), Aneirin Jones (feiolin, llais) a Patrick Rimes (fiola, feiolin, llais).
AR DAITH:
Gorffennaf / July
Awst
Medi
3 Gŵyl Gerdd Ryngwladol Abergwaun a Gorllewin Cymru
4 Gŵyl Gerdd Ryngwladol Abergwaun a Gorllewin Cymru
9 Galeri, Caernarfon - gyda gwestai Beth Celyn
Hydref
28 Y Neuadd Les, Ystradgynlais
29 Wyeside, Llanfair Ym Muallt
Tachwedd / November