BASSEKOU KOUYATE & NGONI BA (Mali)
CYD-GYNHYRCHIAD MWLDAN | JAZZHAUS ARTISTS
Mae Bassekou Kouyate o Mali yn un o wir feistri’r ngoni, liwt draddodiadol hynafol a geir ledled Gorllewin Affrica, a chaiff ei barchu fel un o artistiaid byd-eang blaenaf Affrica. Mae ei fand, Ngoni Ba, yn cynnwys chwaraewyr ngoni (yn cynnwys ngonis o wahanol feintiau tonyddol), offerynnau taro (drwm siarad, Yabara, Calebasse) a'r gantores wych Amy Sacko. Gyda'i gilydd maen nhw wedi chwyldroi sŵn y ngoni, ac wedi gyrru canrifoedd o draddodiadau griot i mewn i’r dyfodol. Mae Bassekou wedi cydweithio â phobl fel Ali Farka Toure, Toumani Diabate, Taj Mahal, a The Kronos Quartet, ac ymunodd â thaith Africa Express yn 2016 ynghyd â Damon Albarn a Paul Weller. Cyrhaeddodd albwm diweddaraf Bassekou “Miri” (‘breuddwyd’ yn yr iaith Bamana) frig Siartiau Cerddoriaeth y Byd Ewrop ym mis Chwefror 2019 a chafodd ei bleidleisio’n “Albwm Gorau’r Flwyddyn” gan gylchgrawn Songlines.
Deheurwydd anhygoel a cherddoriaeth syfrdanol gan un o weledyddion cerddoriaeth Affrica.
DAITH DU 2023:
Mai
30 Canolfan Y Cefyddydau Aberystwyth Arts Centre
Mehefin
4 Band On The Wall, Manchester
5 Warwick Arts Centre, Coventry
8 St Georges, Bristol