Mark Thomas: Showtime From The Frontline

FFRYDIO FYW TRWY YOUTUBE - archebwch trwy'r ddolen archebu isod

Tocynnau £5

Yn dilyn llwyddiant ei ffrwd fyw o Bravo Figaro yn ystod y cyfyngiadau symud, daw Mark Thomas â’i Showtime From the Frontline 2018 clodwiw i sgriniau ei edmygwyr gyda ffrwd fyw wedi’i ddilyn gan sesiwn holi ac ateb byw gydag ef a’i gyd-sêr Faisal ac Alaa, ar ddydd Mawrth 9fed Mehefin am 7:30pm (gadewch eich cwestiynau yn yr ystafell sgwrsio wrth i’r sioe fynd yn ei blaen).

Showtime from the Frontline

'Yn ôl yn 2009, cerddais ar hyd wal Israel yn y Lan Orllewinol. Cefais fy arestio, syrthiais i lawr mynyddoedd a chysgu yng nghanol maes tanio Israelaidd, ac roeddwn yn barod i ddilyn fy nhwpdra fy hun cyn belled taw’r llwybr hwnnw oedd llwybr y wal.


‘Cefais fy mherswadio i fentro o’r llwybr hwn i ymweld â Theatr Rhyddid Jenin, theatr mewn gwersyll ffoaduriaid, sy’n cael ei rhedeg gan Juliano Mer Khemis, actor hanner Palestinaidd, hanner Israelaidd. O edrych yn ôl, rhedais allan o flychau i dicio hanner ffordd trwy'r frawddeg olaf honno. 


Juliano oedd y person cyntaf i 'ddirnad' yr hyn roeddwn i'n ei wneud. Roedd cyfieithwyr a chynorthwywyr Palesteinaidd fel arfer yn clywed fy mod i eisiau cerdded ar hyd y wal ac yn cyfeirio’n gyflym at eu ceir. Ar un achlysur, cynigiodd ffermwr fy ngyrru i'r cyrchfan oedd gennyf mewn golwg, a phan nodais fod y llwybr yr oeddwn am ei ddilyn yn dir fferm heb unrhyw ffyrdd dywedodd, “Mae’n oce mae gen i dractor.”

Ond pan gwrddais â Juliano dywedodd “Felly beth wyt ti’n ei wneud yma?”
 

“Wel ‘rwy’n cerdded hyd wal Israel yn siarad â chymaint o bobl ag y gallaf ac yn ceisio darganfod beth sy’n digwydd… ” 

Trodd yn sydyn a dweud,“ Ffyc. Dyna beth oedden ni'n mynd i'w wneud! ” 

Galwodd ar gydweithiwr i lawr y cyntedd, gwthiodd hwnnw ei ben allan o’r drws, ac yna gweiddodd, “Mae'n cerdded hyd y wal.” 


“Ffyc” meddai ei gydweithiwr. 
 
Ac felly dechreuodd berthynas ddegawd o hyd gyda theatr a arweiniodd at Showtime o'r Frontline. 


Gan weithio gyda Dr Sam Beale, sy'n dysgu stand-yp ym Mhrifysgol Middlesex, cynhaliais gyfres o ddosbarthiadau comedi stand-yp yn Jenin. Nid oedd rhai o’n myfyrwyr erioed wedi perfformio o’r blaen, roedd rhai yn fyfyrwyr Juliano. Ein nod oedd agor clwb comedi mewn gwersyll ffoaduriaid ... gwersyll ffoaduriaid ceidwadol iawn wedi'i amgylchynu gan un o'r byddinoedd mwyaf arfog a pharod i saethu yn y byd. Y canlyniad … .wel rhaid i chi wylio'r sioe i ddarganfod mwy am hwnnw. Ond yr hyn yr wyf yn hapus i'w ddweud wrthych yw ein bod wedi llwyddo, ar ôl llawer o anturiaethau gyda biwrocratiaeth, i gael dau o'n cymrodyr comedïaidd Faisal Abu Alhayjaa ac Alaa Shehada i'r DU, lle gyda'n gilydd gwnaethom ysgrifennu a pherfformio'r sioe yr ydym yn hynod falch ohoni; Showtime from The Frontline, y stori am sut i fod yn chi eich hun pan mae pawb arall eisiau eich rhoi mewn blwch!

 

Yn garedig, mae Mark wedi dewis y Mwldan fel un o'r lleoliadau i hyrwyddo'r sioe hon. Mae tocynnau yn £5, ac os ydych chi'n defnyddio'r ddolen hon i'w wylio, mae 20% o'r elw’n mynd tuag at gefnogi’r Mwldan.

 

7.30pm – Cyflwyniad gan Mark (byw)
7.35pm -  Showtime from the Frontline rhan 1
8.35pm – Egwyl fer
8.45pm - Showtime from the Frontline rhan 2
9.40pm – Egwyl fer arall
9.50pm – Sesiwn Holi ac Ateb gyda Mark, Sam, Faisal ac Alaa (byw)

Canllaw Oedran - 15 (peth rhegi)

Browse more shows tagged with: