Mugenkyo Taiko Drummers: Tribe 25
Yn ystod y flwyddyn nodedig hon sy’n dathlu eu pen-blwydd yn 25 mlynedd, mae Taiko Tribe gwreiddiol y DU yn dychwelyd i deithio gyda sioe newydd sbon yn llawn dawn, stamina a rhythmau eirias i danio eich enaid!
Fel grŵp taiko mwyaf hir-sefydlog Ewrop, caiff Mugenkyo ei gydnabod fel yr arloeswyr sy’n torri tir newydd yn y gelfyddyd hon, gyda chydweithrediadau ar draws arddulliau, prosiectau teledu, ffilm a recordio, a miloedd o berfformiadau ledled y byd, yn gwefreiddio cynulleidfaoedd ac yn ysbrydoli cenhedloedd o chwaraewyr taiko.
Eleni byddant yn dathlu’r twf ymhlith eu criw o berfformwyr o bob cwr o’r byd, gyda’r perfformiad cyfareddol diweddaraf o gydamseriad slic, coreograffi dramatig a rhythmau nerthol ar ddrymiau taiko enfawr.
£18 (£16) (£12 plant)









