Huw Stephens yn Cyflwyno / Presents... Charlotte Church's Late Night Pop Dungeon + Support
YN CYMRYD LLE YNG NGHASTELL ABERTEIFI
HYRWYDDIAD AR Y CYD GAN THEATR MWLDAN / CASTELL ABERTEIFI
HUW STEPHENS YN CYFLWYNO / PRESENTS...
Charlotte Church's Late Night Pop Dungeon +
Buzzard Buzzard Buzzard +
Adwaith +
Huw Stephens (DJ set)
Yn arwain y noson, cewch gyfle prin i weld Late Night Pop Dungeon Charlotte Church, set o ganeuon aml-arddull sy’n fersiynau ar y gwreiddiol, wedi eu perfformio gan fand cefnogi eang (a nodedig), gyda’r feistres Charlotte Church, yn arwain y cwbl gyda pherffeithrwydd.
Mae Pop Dungeons y gorffennol wedi cynnwys David Bowie, Britney Spears, Beyonce, Prince, En Vogue, Rage Against The Machine, Missy Elliott a Black Sabbath a’u tebyg i gyd wedi asio ynghyd i greu noson o fawredd pop deniadol tu hwnt; noson fydd yn gadael y gynulleidfa’n unedig, yn orfoleddus, ac wedi dawnsio hyd nes bod eu traed yn brifo! Yn ei geiriau hi ei hun, ‘It’s full of love; like a massive party with a really warm hug at the end’.
Yn ymuno â’r act arweiniol ar gyfer y noson, mae gennym nid un, ond dau o’r bandiau newydd gorau; Buzzard Buzzard Buzzard ac Adwaith. Mae Buzzard Buzzard Buzzard yn fand pedwar aelod o Gaerdydd sy’n aml yn perfformio sioeau yn y ddinas lle gwerthwyd pob tocyn, ac sydd wedi teithio a denu adolygiadau hynod frwd o bob man maen nhw’n chwarae. Mae eu setiau yn wyllt ac yn egnïol, yn sianeli ysbrydion roc a rôl y gorffennol, ond yn cynnig golwg ffres ar y model roc clasurol. Tra’n gwisgo denim.Mae Adwaith yn fand ôl-pync arbrofol wedi ei ffurfio o 3 aelod hynod ddawnus o Gaerfyrddin. Mae James Dean Bradfield o’r Manic Street Preachers wedi ail-gymysgu eu gwaith, maen nhw wedi teithio gyda Joy Formidable a Gwenno, ac roedd eu halbwm début, Melyn, yn fawr ei glod gan y beirniaid. Yn go gyflym, maen nhw’n troi’r arwyr cwlt.
Ac ar ben hynny oll, bydd y dyn ei hun, Huw Stephens yn chwarae ychydig o'i hoff gerddoriaeth rhwng y bandiau.
£22.50 (£15 o dan 18 oed)