Illyria - The Pirates of Penzance
YN CYMRYD LLE YNG NGHASTELL ABERTEIFI
Gan Gilbert & Sullivan
Mae Frederick, bu’n brentis i’r Môr-ladron ers yn blentyn, yn cael ar ddeall ei fod wedi ei eni mewn blwyddyn naid ar 29ain o Chwefror, a’i fod dan gytundeb i Frenin y Môr-ladron hyd nes ei BEN-BLWYDD yn 21 oed, nid ei 21ain flwyddyn. Gyda dim ond heddlu di-glem Penzance i’w amddiffyn, sut bydd yn gwrthsefyll cael ei orfodi i oddef bywyd o drosedd hyn nes ei fod yn 84 mlwydd oed – ac a fydd ei gariad Mabel yn aros cyhyd amdano? Gyda melodrama doniol, dychan miniog a ffraethineb disglair, mae “The Pirates of Penzance” mor ffres a petasai wedi ei hysgrifennu heddiw.
Hefyd yn y Castell ar Awst 1 - Dathlwch Flwyddyn y Môr Croeso Cymru gyda dathliad Castell Aberteifi o bob dim morwrol. Bydd y Castell yn cynnal perfformiad un dyn theatraidd o Barti Ddu, bydd gwisg ffansi, llwybr trysor cyffrous y môr-ladron ac arddangosiad o sut i greu cwrwgl. Mae’n siŵr o weddu’n addas ar gyfer perfformiad Illyria o The Pirates of Penzance yn nes ymlaen y noson honno.
GWYBODAETH HANFODOL
Bydd gerddi’r Castell ar agor awr cyn amser cychwyn y perfformiad.
Dewch â’ch seddau cefn isel eich hun neu rygiau a dillad cynnes.
Bydd lluniaeth ar gael ar y safle yn y digwyddiadau hyn. Croeso i chi ddod â phicnic i’w fwynhau.
Mae mynediad cadair olwyn i’r safle perfformio. Nid oes unrhyw barcio cyhoeddus ar y safle.
Caiff perfformiadau eu llwyfannu mewn pob tywydd ond y gwaethaf. Nid yw tocynnau’n ad-daladwy.
Theatr Mwldan yw’r unig fan lle cewch brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiadau hyn. Gellir prynu tocynnau wrth y drws, ond mae hyn yn hollol ddibynnol ar argaeledd. Argymhellwn archebu tocynnau o flaen llaw i osgoi cael eich siomi.
Am wybodaeth am y Castell galwch 01239 615131.
GWYBODAETH TOCYNNAU
Caiff eich tocyn ei sganio wrth y fynedfa ar gyfer y digwyddiadau hyn:
Derbyniwn docynnau go iawn (os wnaethoch brynu tocynnau mewn person o’r Mwldan) Gallwn sganio eich archeb ar eich ffôn symudol Gallwch ddod â’ch tocyn ‘printio gartref’ (PWYSIG – sicrhewch pan fyddwch yn printio eich tocynnau eich bod yn defnyddio’r ddolen ‘Click Here To Print Your Tickets’ sy’n cynnwys y codau QR, ac NID y ‘crynodeb tudalen’) Gallwch gasglu eich tocyn ar y noson
Bydd gan bob tocyn ar gyfer y digwyddiadau hyn god QR (fel cod bar) sy’n unigryw i’r unigolyn, a gellir ond ei ddefnyddio unwaith.
Sicrhewch eich bod yn gofalu am eich tocyn(nau) argraffu gartref fel unrhyw docyn arall. Mae gan bob tocyn cod QR unigryw y caiff ei sganio wrth y fynedfa i’r digwyddiad.
Os gwneir copïau o’r tocyn, dim ond y tocyn a ddefnyddir ar gyfer y sgan cyntaf o’r cod bar caiff fynediad.
Os ydyw’r cod bar unigryw eisoes wedi ei sganio, tynnir sylw’r gwasanaethydd a ni chaniateir mynediad.