Exhibition On Screen: Cezanne
Cyflwyna EXHIBITION ON SCREEN arddangosfa sy’n canolbwyntio ar waith portreadau Paul Cézanne, sy’n agor ym Mharis cyn teithio i Lundain a Washington. Ni ellir gwerthfawrogi celf yr 20fed ganrif heb ddeall arwyddocâd athrylith Paul Cézanne. Gan gynnwys cyfweliadau gyda churaduriaid ac arbenigwyr a gohebiaeth gan yr arluniwr ei hun, mae’r ffilm yn tywys cynulleidfaoedd y tu hwnt i’r arddangosfa i’r lleoedd bu Cézanne yn byw ac yn gweithio ynddynt, gan daflu goleuni ar yr arluniwr sydd efallai’r lleiaf hysbys ymhlith yr holl argraffiadwyr
£10 (£9)
![](https://mwldan.wales/sites/default/files/styles/logo/public/logos/EOS_logo_MR_trans_1.png?itok=lPkzgIck)