The Royal Ballet: The Nutcracker
DIGWYDDIADAU DARLLEDU BYW O BALE BRENHINOL COVENT GARDEN LLUNDAIN
Cynhyrchiad The Royal Ballet o The Nutcracker, wedi ei greu gan Peter Wright ym 1984. Mae’n Noswyl Nadolig ac mae Drosselmeyer y swynwr yn cludo Clara ifanc i ffwrdd ar antur ffantasi lle nad yw amser yn bodoli. Try ‘stafell fyw’r teulu yn faes y gad, ac mae siwrnai hudol yn eu tywys trwy the Land of the Snow i The Kingdom of Sweets.
Mae sgôr disglair Tchaikovsky, dyluniadau moethus y llwyfan a dawnsio cyfareddol y Royal Ballet yn sicrhau mai’r Nutcracker hwn yw’r profiad Nadoligaidd hanfodol.
£16 (£15)
