Angela Davies: Silent Spaces @Oriel Mwldan
Mae Angela Davies yn artist rhyng-ddisgyblaeth y mae ei gwaith wedi ei lywio gan berthynas gyda chelf, gwyddoniaeth, natur a thechnoleg. Mae Angela yn gweithio ar draws disgyblaethau - cerflunio, gwaith gosod a pherfformiad, i greu ffurfiau golau cerfluniol sy’n bersonol ac sydd ar raddfa fawr. Mae’n tynnu ar hybrid o ddisgyblaethau crefft ynghyd â thechnoleg greadigol; ffotoneg, electroneg, rhyngweithio, codio a delweddau symudol. Mae defnydd y technolegau hyn yn cyfleu'r syniad o gyfathrebu a chysylltedd. Defnyddir haenu a golau i groesi ffiniau rhwng gofod go iawn a gofod rhithiol.
#silentspaces
Am Ddim