CylchCanu 2
Daw CylchCanu 2 â Kate Ronconi Woollard, Beth Williams Jones, Stacey Blythe, Christine Cooper, Ceri Jones, Gareth Bonello, Jamie Smith a Patrick Rimes am ynghyd am noson gyffrous o gydweithrediadau newydd a threfniadau unigryw o donau a chaneuon Cymreig traddodiadol a chyfoes.
Bydd yr wyth cerddor hyn yn eich tywys ar siwrnai gerddorol o gwmpas Cymru, gan ddathlu cyfoeth ac amrywiaeth ein cerddoriaeth,ac yn adrodd straeon gyda cherddoriaeth mewn perfformiad dwyieithog, yn ŵyl o gerddoriaeth mewn un noson.
Adborth y gynulleidfa o CylchCanu 1 (Ebrill 2014)
“Cyngerdd ardderchog!” “CylchCanu / SongChain - just wow, bendigedig! Atmospheric, forlorn laments to stomping jolly folk dances, da iawn!” “Reit, ewch i weld criw Cylchcanu pan ddaw nhw i’ch ardal chi dros y bythefnos nesa. Noson wefreiddiol. Wir yr, peth gora welish i ers dalwm” “Cyngerdd arbennig heno, bendigedig dros ben #CylchCanu #songchain yn neuadd Dewi Sant, ewch i weld y daith#balchder da iawn i bawb x” “Stunning evening of traditional Welsh music @stdavidshall tonight. Go & experience #songchain#culchcanu. Diolch @traccymru @TheatrMwldan” “syniad hyfryd a’r gerddoriaeth yn wych.” “Noson arbennig iawn gan #cylchcanu yn Neuadd Dwyfor - cyffrous, hwyliog, crefftus, trist a champus. Ewch os cewch chi gyfle” “A wonderful concert of Welsh music tonight #songchain #CylchCanu at St David’s Hall, excellent stuff, get to the tour at a venue near you!” “Noson arbennig yn y Theatr Mwldan neithiwr #cylchcanu” “beautiful transitions and choreography”
PERFFORMIAD DWYIEITHOG
Ar Daith:
Hydref 2015
13 Borough Theatre, ABERGAVENNY
14 St Davids Hall Level 3, CAERDYDD
16 Pontardawe Arts Centre, PONTARDAWE
21 Theatr Brycheiniog, ABERHONDDU
Wedi ei noddi’n rhannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’r Llywodraeth Cymru, a’r Gyngor Celfyddydau Lloegr.