STELLA RAMBISAI CHIWESHE AND THE HEART OF THE EARTHQUAKE BAND (Zimbabwe)

Cyd-Gynhyrchiad Creu Cymru | Koni Music | Theatr Mwldan 

 

Ar Daith 27 Hydref – 8 Tachwedd 2008

'Once you listen to mbira, give it your soul'... Stella Rambisai Chiweshe

Mae Stella yn dipyn o gymeriad ac yn ‘Frenhines’ ar y Mbira – sef offeryn sanctaidd sy’n rhan o ddiwylliant Shona yn Zimbabwe. Yn berfformwraig garismatig, bu’n anodd i Stella gyrraedd y brig fel artist mewn traddodiad a reolir gan ddynion, ac mewn gwlad oedd ar y pryd yn dal yn ran o’r Ymerodraeth Brydeinig. Yn wir, cymaint oedd y pryder am rymoedd hudol y mbira, y gosb am ei chwarae oedd carchar. Er bod y Mbira yn edrych fel offeryn syml, darn o bren ag arno stripiau metel, mae’n creu’r gerddoriaeth fwyaf swynol, ysbrydol a hypnotig. Cyn hyn, mae rhai o aelodau’r gynulleidfa wedi honni cael profiad ysbrydol neu iachâd yn y man a’r lle! Pa bynnag brofiad y cewch, mae’r canu a’r melodïau rhyfeddol yn siŵr o’ch diddanu a’ch lleddfu.

 

Ar Daith i:

Small World Theatre, Cardigan (Workshop only)

Theatr Mwldan, Cardigan 

Galeri, Caernarfon

Queens Hall, Narberth

Taliesin Arts Centre, Swansea

Muni Arts Centre, Rhondda Cynon Taf (Workshop)

Muni Arts Centre, Rhondda Cynon Taf (Workshop & Performance)

Theatr Hafren, Newtown (Workshop & Performance)

Browse more shows tagged with: