Ein Rheolau Ni
• Mae defnydd heb ganiatâd o gamera, fideo, sain neu ddyfais recordio arall wedi ei wahardd.
• Sicrhewch fod pob ffôn symudol a dyfais electroneg wedi eu troi i ffwrdd cyn i’r perfformiad ddechrau.
• Ni chaniateir ysmygu mewn unrhyw ran o’r adeilad.
• Ni chaniateir unrhyw wydrau yfed yn yr awditoria (gofynnwch yn y bar am wydr plastig os hoffech fynd â’ch gwydr i mewn gyda chi i ddangosiad neu berfformiad)
• Caniateir cŵn sy’n ymddwyn yn dda yn yr adeilad, ond nid yn y caffi. Cŵn tywys yn unig gaiff eu caniatáu yn ein hawditoria.
• Dim ond bwyd sy’n cael ei brynu yn yr adeilad a chaniateir ei fwyta yn y caffi.
• Gweithredwn bolisi hunaniaeth ffoto a chadwn yr hawl i wrthod mynediad a gwerthu alcohol.
• Ni chaniateir i gwsmeriaid ddod ag alcohol i mewn i’r adeilad.
• Ni chaniatawn ymddygiad ymosodol tuag at staff.
• Er ein bod yn croesawu adborth adeiladol, nid ydym yn goddef cynnwys difrïol a thramgwyddus nac ymddygiad difrïol tuag at ein staff na'r sefydliad ar-lein na thrwy’r cyfryngau cymdeithasol. Bydd ymddygiad o'r fath yn arwain at waharddiad ar unwaith o'n cyfrifon swyddogol.• Mae’r Rheolwyr yn cadw’r hawl i ganslo neu ddiwygio’r rhaglen a hysbysebwyd.
• Caiff hwyrddyfodiaid mynediad yn ystod toriad addas yn y perfformiad yn unig yn ôl disgresiwn y Rheolwr ar Ddyletswydd. Mewn rhai sioeau, ni chaiff hwyrddyfodiaid fynediad.
• Gellir gwrthod mynediad i hwyrddyfodiaid heb ad-daliad.
• Mae’r Rheolwyr yn cadw’r hawl i wrthod mynediad heb ad-daliad.
• Ni all y Rheolwyr dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled o ganlyniad i ganslo unrhyw raglen neu ddigwyddiad.
• Os cewch unrhyw broblem tra’ch bod yn y ganolfan neu yn ystod digwyddiad, soniwch wrth y rheolwr ar ddyletswydd amdani ar unwaith. Yn anffodus mae’n bosibl ni allwn gynnig ad-daliadau neu gyfnewidiadau yn ôl-weithredol.