Hejira: Celebrating Joni Mitchell

Ers iddynt ffurfio ychydig dros ddwy flynedd yn ôl, mae'r band wedi mynd o nerth i nerth, gyda sioeau’n gwerthu allan, y gynulleidfa ar ei thraed mewn cymeradwyaeth, cyfanswm o dros 150K o ymweliadau â’u sianel YouTube a mwy na 700 o sylwadau brwdfrydig ac adolygiadau gan y gynulleidfa. 

Dathlu Joni Mitchell: mae’r band 7 aelod ‘Hejira’ yn perfformio gweithiau mwyaf y gantores-gyfansoddwraig hynod ddawnus. Gyda’r gantores/gitarydd rhagorol Hattie Whitehead, mae’r band hwn yn cyfleu barddoniaeth, angerdd a harddwch campweithiau Mitchell i’r dim. Yn dilyn rhyddhau'r albymau 'The Hissing of Summer Lawns', 'Hejira', 'Don Juan's Reckless Daughter' a 'Mingus' ar ddiwedd y 1970au (sy'n cael ei ystyried fel ei 'chyfnod jazz'), teithiodd Joni am gyfnod byr gyda band a ffurfiwyd o blith y crème de la crème o gerddorion jazz cyfoes (Metheny, Mays, Brecker, Pastorius ac Alias). Recordiwyd y daith, gan arwain at gynhyrchu’r albwm byw rhagorol, ‘Shadows And Light’; o'r albwm hwn y mae'r band Hejira yn tynnu corff ei repertoire. Disgwyliwch noson o ganeuon ‘gwych’ o ôl-gatalog Mitchell, fel ‘Amelia’, ‘Woodstock’, ‘A Case Of You’, ‘Song For Sharon’, ‘Edith And The Kingpin’ a mwy! 

£23 

Hattie Whitehead ~ canu a gitâr 

Ollie Weston ~ sacsoffonau tenor a soprano 

Chris Eldred ~ allweddellau 

Pete Oxley ~ gitâr Dave Jones ~ bas 

Rick Finlay ~ drymiau 

Marc Cecil ~ offerynnau taro

They came to listen because they love Joni Mitchell, but they went away loving Hejira
Jazzwise, August 2024
Honestly, one of the most perfect voices I’ve heard in ages...this lady’s voice is stunning
Adam Dowling, BBC Radio Kent, 4th April 2024
Whitehead, playing a variety of acoustic and electric guitars, has a beautifully clear vocal style and managed Mitchell’s vocal challenges with apparent ease and great delicacy
Paul Kelly, Director of Swanage Jazz Festival, May 2024

Browse more shows tagged with: