Gŵyl Grefft Cymru / Craft Festival Wales
CASTELL ABERTEIFI
Dewch i gwrdd â'r gwneuthurwyr yng Ngŵyl Grefft Cymru.
Bydd Aberteifi yn fwrlwm o greadigrwydd mewn tair wythnos fer wrth i’r Ŵyl Grefft Cymru gyntaf gael ei chynnal yng Nghastell Aberteifi ac o gwmpas y dref o 6 i 8
Medi.
Mae'r digwyddiad yn ddathliad cynnes a chroesawgar o greadigrwydd, ac yn gyfle i gwrdd â'r gwneuthurwyr a phrynu crefft unigryw o waith llaw.
Dewiswyd yr arddangoswyr yng Ngŵyl Grefft Cymru am ansawdd a gwreiddioldeb eu gwaith. Maent yn cynnwys crefftwyr proffesiynol lleol a llawer o rai eraill a fydd yn dod i Aberteifi am y tro cyntaf o bob rhan o Loegr, Yr Alban, Iwerddon a rhannau eraill o Gymru.
Mae Gŵyl Grefft yn fenter ddielw dan arweiniad Sarah James MBE, a anwyd ac a fagwyd yn Aberteifi.
Ynghyd â'r 80 o wneuthurwyr proffesiynol yn arddangos eu crefft i’w werthu, mae'r digwyddiad yn cynnwys gweithdai crefftau, arddangosiadau a sgyrsiau gan
wneuthurwyr blaenllaw, yn cynnwys y crochenydd, awdur a’r darlledwr Keith Brymer- Jones a'r artist cerameg byd-enwog Ashraf Hanna sy'n byw yn Sir Benfro. Cynhelir
sgyrsiau yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Bydd rhaglen o weithdai crefft i oedolion ar gael hefyd – gellir bwcio'r rhain ymlaen llaw.
O gwmpas Aberteifi bydd y Llwybr Crefft, mewn cydweithrediad ag Oriel Myrddin a chwe lleoliad lleol, yn cynnwys y Mwldan, yn arddangos gwaith newydd gan wneuthurwyr blaenllaw a ysbrydolwyd gan Gasgliad Amgueddfa Cymru.
Hefyd, bydd Gŵyl Grefft Cymru yn cyflwyno rhaglen amrywiol o weithgareddau crefft am ddim i blant, ynghyd â cherddoriaeth fyw, dweud storïau a pherfformiad theatr.
Prynwch eich tocynnau ar-lein ymlaen llaw ac arbedwch arian.
Gŵyl Grefft Cymru yng Nghastell Aberteifi. 6 i 8 Medi 2024
Tocynnau £7 ymlaen llaw ar-lein.
Mynediad am ddim i blant dan 18 oed yng nghwmni oedolyn sydd â thocyn.