THERE'S A MONSTER IN YOUR SHOW

Mae anturiaethau rhyngweithiol Tom Fletcher ar gyfer dychymyg byw yn llamu o’r dudalen i’r llwyfan, wrth i’r gyfres hoffus ‘Who’s in Your Book?’ wneud ei début fel sioe gerdd newydd sbon.

Mae grŵp o berfformwyr yn paratoi i gychwyn eu sioe, ond yn darganfod yn gyflym nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain ar y llwyfan. Mae Little Monster eisiau bod yn rhan o'r hwyl hefyd! Wrth iddo wahodd ei ffrindiau, Dragon, Alien ac Unicorn i ymuno ag ef, gallwch ddisgwyl comedi ac anhrefn wrth iddyn nhw helpu i greu sioe hudolus, gan ddysgu am lawenydd llyfrau a chyfeillgarwch ar hyd y ffordd.

A hithau’n antur 55 munud llawn egni sy’n cynnwys cerddoriaeth wreiddiol fywiog, mae’r sioe hon yn gyflwyniad perffaith i theatr fyw.

Disgwyliwch ddigonedd o hwyl chwareus i'ch plantos bach wrth i'w hoff gymeriadau ddod yn fyw mewn sioe sy'n llawn cyfleoedd rhyngweithiol i'w mwynhau gyda'ch gilydd.

There's a Monster in Your Show ac mae'n edrych ymlaen at gwrdd â chi!

£15 (£13)

MEI Theatrical

Lluniau: © Pamela Raith Photography

Addas ar gyfer pobl 2 oed a hŷn