LEE (15)
Ellen Kuras | UK | USA | 2023 | 117’
Hanes y ffotograffydd Elizabeth 'Lee' Miller, model a ddaeth yn ohebydd rhyfel clodwiw i gylchgrawn Vogue yn ystod yr Ail Ryfel Byd. A hithau’n fenyw a wrthododd gael ei chofio fel model yn unig, yn groes i normau rhywedd y cyfnod, fe deithiodd Lee i'r rheng flaen ac i wersyll crynhoi Dachau er mwyn dogfennu’n ddiysgog yr erchyllterau a welodd.
£8.40 (£7.70)