LES MISÉRABLES - THE STAGED CONCERT (40TH ANNIVERSARY CELEBRATION) (12A TBC)

A hithau wedi’i gweld gan dros 120 miliwn o bobl ledled y byd, heb os LES MISÉRABLES yw un o sioeau cerdd mwyaf poblogaidd y byd. Yn 2019, cynhyrchodd Cameron Mackintosh fersiwn cyngerdd llwyfan ysblennydd a werthodd bob tocyn yn Theatr Gielgud gyda chast llawn sêr yn cynnwys Michael Ball, Alfie Boe, Carrie Hope Fletcher, Matt Lucas a John Owen Jones. Nawr gall cynulleidfaoedd sinema brofi encore unigryw o'r sioe anhygoel hon i ddathlu Pen-blwydd Les Misérables yn 40 oed. Gyda chast a cherddorfa o dros 65 aelod ac yn cynnwys y caneuon I Dreamed A Dream, Bring Him Home, One Day More ac On My Own ni ddylech golli’r cyngerdd llwyfan cyffrous hwn.

£16 (£15)