BILLY ELLIOT THE MUSICAL LIVE (20TH ANNIVERSARY CELEBRATION) (15 TBC)

Mae Billy Elliot the Musical sy’n seiliedig ar y ffilm a enwebwyd ar gyfer Gwobr Academi®, wedi cipio calonnau miliynau o bobl ers iddi agor yn West End Llundain yn 2005. Wedi'i gosod mewn tref lofaol ogleddol, gyda streic y glowyr ym 1984/85 yn gefndir iddi, mae taith Billy yn ei arwain allan o'r cylch bocsio ac i mewn i ddosbarth bale lle mae'n darganfod angerdd am ddawns sy'n ysbrydoli ei deulu a'i gymuned gyfan ac yn newid ei fywyd am byth. Mae’r enwog Elton John (cerddoriaeth) yn ymuno â’r tîm creadigol gwreiddiol y tu ôl i’r ffilm, gan gynnwys yr awdur Lee Hall (llyfr a geiriau), y cyfarwyddwr Stephen Daldry, a’r coreograffydd, Peter Darling, i gynhyrchu profiad theatraidd doniol, dyrchafol ac ysblennydd a fydd yn aros gyda chi am byth.

£16 (£15)