IF ONLY I COULD HIBERNATE (12A)
Zoljargal Purevdash | Mongolia | France | Switzerland | Qatar | 2023 | 98’
Dyma’r ffilm gyntaf erioed o Fongolia i gael ei dangos fel rhan o’r detholiad swyddogol yn Cannes. Mae'r ffilm nodwedd début hon yn ddrama dod i oed hyfryd llawn gobaith am wytnwch a phenderfyniad yn groes i bob disgwyl. Pan mae Ulzii, myfyriwr dawnus yn yr ysgol uwchradd, yn llwyddo’n annisgwyl i ennill cystadleuaeth ffiseg leol yn Ulaanbaatar, Prifddinas Mongolia, mae'n gweld cyfle i ddianc o’i gymdogaeth ddifreintiedig drwy gystadlu'n genedlaethol am ysgoloriaeth brifysgol. Ond mae'n rhaid iddo gydbwyso gofynion gofalu am ei frodyr a chwiorydd iau yn ystod gaeaf caled gyda dilyn ei freuddwydion academaidd.
£8.40 (£7.70)