CylchCanu

Cyd-Gynhyrchaid Theatr Mwldan | Gerard Kilbride

Bydd deg o gantorion a cherddorion traddodiadol gorau Cymru yn ymddangos yn y perfformiad arbennig hwn sy’n archwilio ac yn dathlu gwreiddiau ac etifeddiaeth cerddoriaeth werin yng Nghymru, y dylanwadau a’r perthnasau sydd wedi ei chadw’n fyw, a daearyddiaeth, iaith a diwylliant cenedl gerddorol. Gan ddangos sut mae cerddoriaeth draddodiadol yn esblygu trwy gael ei rhannu a’i chwarae, mae’r gadwyn yn ddilyniant o unawdau a deuawdau sy’n cydgysylltu, yn cyfuno amrywiaeth o offerynnau ac arddulliau cerddorol, a chreu dehongliadau unigryw a chyfuniadau o gerddoriaeth Gymreig.

P’un ai os ydych yn newydd i ganu gwerin Cymreig, neu yn edmygwr brwd, gallwch fwynhau profiad gwych yng nghwmni rhai o enwau mawr traddodiadol y genedl - Gwyneth Glyn (Ghazalaw), Robert Evans (Bragod, Pwngk), Delyth Jenkins (DnA, Aberjabber), Dylan Fowler (Taith, Alaw), Gwilym Bowen Rhys (Y Bandana, Plu), Gwenan Gibbard, Jamie Smith (Mabon, Alaw, Barrule), Patrick Rimes (Calan), Stephen Rees (Ar Log, Crasdant, Triawd) a Beth Williams-Jones (Calan).

 

AR DAITH EBRILL 2014


1  St Davids Hall Level 3, CARDIFF
2  Arts Centre, PONTARDAWE
3  Mwldan, CARDIGAN        
4  Galeri, CAERNARFON
5  Neuadd Dwyfor, PWLLHELI
6  Ucheldre, HOLYHEAD
10  Brycheiniog, BRECON
11  Hafren, NEWTOWN
12  SPAN @ Queens Hall,  NARBERTH

 

Wedi ei noddi’n rhannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru, a’r Loteri Genedlaethol.

Browse more shows tagged with: