CATRIN FINCH & CIMARRON
Cyd-Gynhyrchiad Astar | Theatr Mwldan | Galeri | Theatr Brycheiniog
Ar Daith: 27 Chwefror – 19 Mawrth 2009
Dyma i chi brosiect cerddorol rhyngwladol rhyfeddol a chyffrous o’r proffil uchaf sy’n troi o gwmpas y delyn, ac sy’n cyfuno dawn anferthol Catrin Finch, sy’n hanu o Gymru, a Cimarron, y band bywiog o Golumbia. Mae Catrin Finch yn un o delynoresau blaenaf y byd, a bu am gyfnod yn delynores frenhinol. Cimarron yw’r grŵp llanera mwyaf dawnus yng Ngholumbia. Mae’r band 7 aelod, caiff ei arwain gan y telynor a’r cyfansoddwr, Carlos Rojas, wedi perfformio led led y byd yn ystod ei yrfa ugain mlynedd. Bu cyfnewid a datblygu tonau a chaneuon o draddodiad a diwylliant y naill a’r llall – mae meistrolaeth llwyr Catrin yn ymdreiddio i rythmau Columbia, tra bod naws Ladinaidd yn cael ei chyflwyno i felodïau traddodiadol Cymreig. Roedd taith ddiweddar Catrin a Cimarron ar draws Cymru yn llwyddiant ysgubol, gan werthu pob tocyn, felly cewch ddisgwyl noson wefreiddiol sy’n dathlu hyfrydwch y delyn.
Ar Daith i:
Torch Theatre, Milford Haven / Aberdaugleddau
Theatr Stiwt, Rhosllannerchrugog, Wrexham
Theatr Hafren, Newtown / Drenewydd
St David’s Hall, Cardiff / Caerdydd
Theatr Mwldan, Cardigan / Aberteifi
Theatr Felinfach, Felinfach
Theatr Brycheiniog, Brecon / Aberhonddu
Park & Dare, Treorchi
Taliesin Arts Centre, Swansea / Abertawe
The Welfare, Ystradgynlais
Theatr Mwldan, Cardigan / Aberteifi
Galeri, Caernarfon
Theatr Harlech, Harlech
Ammanford Miners Theatre, Ammanford
Dartington Hall, Totnes, Devon
Supported by the Welsh Assembly Government and the Arts Council Of Wales through the Arts Outside Cardiff Scheme.