AKA Trio - Antonio Forcione, Seckou Keita & Adriano Adewale
CYD-GYNHYRCHIAD THEATR MWLDAN | AKA TRIO
Daw tri cherddor ffenomenaidd - Antonio Forcione, Seckou Keita ac Adriano Adewale - ynghyd i ffurfio’r Triawd AKA epig; arddangosfa egnïol, fywiogol ac aruthrol o ddawn gerddorol, yn gyfoethog yn ei dylanwadau diwylliannol.
Mae’r triawd AKA yn gydweithrediad nwyfus rhwng tri phencampwr byd-eang enwog; mae’r byd-eang canmoladwy Antonio Forcione o’r Eidal yn feistr ar ei gamp, nid yn unig fel un o’r gitarwyr acwstig gorau ond mae hefyd yn uchel ei barchu am ei gyfansoddiadau “one of the greatest guitarists” (The Guardian). Mae’r aruthrol Seckou Keita o Senegal yn un o’r chwaraewyr kora uchaf ei barch a chlodfawr yn y byd “An absolutely magical sound” (Mark Radcliffe, BBC Radio 2); Mae Adriano Adewale yn gyfansoddwr/chwaraewr offerynnau taro o Frasil y mae ei garisma naturiol yn gymesur â’i wreiddioldeb “combines his Brazilian and African roots brilliantly in a captivating synthesis” (The Jazzmann).
Mae gan y cerddorion hyn gyrfaoedd unigol disglair. Gyda’i gilydd fel y triawd AKA cyflwynant sioe nerthol a deinamig i gynulleidfaoedd sy’n llawn ffraethineb, personoliaeth a meistrolaeth gerddorol.
AR DAITH:
AWST 2019
26 Shrewsbury Folk Festival, AMWYTHIG
TACHWEDD 2019
09 De Nieuwe Kerk, DEN HAAG, NL
13 Lakeside Arts Centre, NOTTINGHAM
14 Cecil Sharp House, LLUNDAIN
15 Ropetackle Arts Centre, SHOREHAM-BY-SEA
21 Band On The Wall, MANCEINION
22 Canolfan y Celfyddydau Taliesin Arts Centre ABERTAWE
27 Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth Arts Centre ABERYSTWYTH