THE ADVENTURES OF ALVIN SPUTNIK: DEEP SEA EXPLORER
house a Theatr Mwldan yn gyflwyno'r gynhyrchiad Perth Theatre Company
Ar Daith: 1 Medi – 20 Hydref 2012
Mewn asiad hynod ddychmygus o animeiddiad, pypedwaith, tafluniadau , cerddoriaeth fyw ac wedi ei recordio, mae Tim Watts yr adroddwr stori ddawnus yn adrodd hanes Alvin Sputnik, y fforiwr cefnforol, a’r chwiliad am ei gariad coll yn nyfnderoedd diddiwedd y moroedd. Ar Ddaear y dyfodol lle mae’r capiau iâ wedi toddi, prin mae toeau yn rhoi dihangfa rhag y dyfroedd chwyddedig. Mae ein harwr unig Alvin, sy’n dorcalonnus yn dilyn colled ei wraig annwyl, yn clywed ple ar y teledu o Bencadlys y Ddaear yn chwilio am rywun mentrus sy’n fodlon dod o hyd i werddon goll ar waelod y môr bydd o bosib yn achub dynoliaeth. Gan ddefnyddio asiad sy’n barhaol greadigol, deniadol ac od o gyffro byw, pypedwaith, animeiddiad, cerddoriaeth a ffilm, mae’r athrylith o Awstralia Tim Watts yn adrodd ei hanes o gariad, colled ac arwriaeth dawel gydag egni gafaelgar a swyn deniadol. Bydd yr aeddfed a’r ifainc - oedolion a phlant - yn ymhyfrydu yn yr awr ramantus hyfryd hon o ollyngiad pur. Ni allwn gymeradwyo hyn i chi ddigon.... dewch â’ch ffrindiau, dewch â’ch teulu: byddant yn siŵr o’ch diolch!
“one of the most beautifully constructed, and endearing productions I have ever seen” The Scotsman
“absorbing, touching and uplifting” The Australian “...an endearing Australian solo show...akin to a theatrical Wall-E” New York Times Winner Best Production Theatre – Auckland Fringe Festival 2011 Winner Best Puppetry—Adelaide Fringe Festival 2010 Winner Best Solo Show—New York Fringe Festival 2009 Winner Best Production – The Blue Room Theatre Awards 2009
Ar Daith i:
Pavillion Theatre, BRIGHTON
Theatr Mwldan, CARDIGAN
ABERYSTWYTH Arts Centre
Torch Theatre, MILFORD HAVEN
Chapter Arts Centre, CARDIFF
The Welfare, YSTRADGYNLAIS
Taliesin Arts Centre, SWANSEA
South Hill Park Arts Centre, BRACKNELL
Colchester Arts Centre, COLCHESTER
Bedford Theatre, BEDFORD
Theatre Royal, BURY ST EDMUNDS
West End Centre, ALDERSHOT
Gulbenkian, CANTERBURY