Hotel Salvation (PG)

Shubhashish Bhutiani | 2016 | India | 102’

Yn y ddrama galonogol hon am bobl sy’n wynebu diwedd eu bywydau, yr Hotel Salvation, sy’n eistedd ar lannau’r Afon Ganges sanctaidd, yw’r lle y daw credinwyr Hindŵ i dreulio eu diwrnodau terfynol.  Mae ffydd a theulu’n ymblethu wrth i ddyn 77 mlwydd oed synhwyro’n sydyn fod ei amser ar ben a phwyso ar ei fab gweithgar i’w yrru i Varanasi iddo gael marw’n heddychlon. Mae hiwmor ysgafn ac arferion hynod yr henoed yn meddalu’r naws wrth i obeithion y tad fynd ar gyfeiliorn. Myfyrdod hamddenol, doeth a theimladwy am fanteision gadael fynd.

IS-DEITLAU