The Trials of Cato

Wedi’i ffurfio yn Beirut, dychwelodd The Trials of Cato i’r DU yn 2016 gan fynd ati i berfformio’n ddiflino ledled y wlad, gan arwain at Mark Radcliffe o BBC Radio 2 yn eu canmol fel “un o’r darganfyddiadau o bwys ar y gylchdaith werin yn ddiweddar.” Denodd eu halbwm cyntaf, Hide and Hair, sylw mewn cyhoeddiadau cenedlaethol, mae'n cael ei chwarae ar y radio’n genedlaethol yn fynych ar BBC Radio 2 a BBC 6 Music, ac enillodd yr Albwm Gorau yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2 yn 2019. Yn dilyn blwyddyn o deithio di-stop ledled y DU, Ewrop, a Gogledd America yn 2019, cafodd hynt y band ei stopio gan dawelwch chwarae’n fyw y pandemig byd-eang. Nawr, maen nhw'n dod allan o'u crysalis wedi'u trawsnewid. Fel erioed, ‘The Trials Continue’ - ond y tro hwn mae’r offerynwraig a’r gantores aml-dalentog Polly Bolton yn ymuno â’r criw. 

 Mae’n debyg y bydd ail albwm The Trials of Cato, y mae disgwyl mawr amdano, yn cael ei ryddhau yn ddiweddarach eleni. Yn dwyn yr enw Gog Magog, mae'r albwm wedi'i enwi ar ôl cawr chwedlonol y chwedlau Arthuraidd a chopa’r bryn yn Swydd Caergrawnt, lle cafodd yr albwm newydd ei ddychmygu dros y cyfnod clo.

£15

One of the real discoveries on the folk circuit in recent times
Mark Radcliffe, BBC Radio 2
Swaggering… glossy results
The Guardian

Browse more shows tagged with: