Torch Theatre Company: Angel (14+)
Angelgan Henry Naylor
Cyfarwyddwyd gan Peter Doran
Cynlluniwyd gan Sean Crowley
Gydag Yasemin Özdemir
Brwydr ddewr un fenyw yn erbyn y bygythiad mwyaf i’w thref a’i phobl.
Angelyw stori chwedlonol Rehana;. Yn 2014 roedd teuluoedd Cwrdaidd yn ffoi o Kobane i osgoi ymosodiad anochel ISIS; Arhosodd Rehana i ymladd ac amddiffyn ei thref; fel saethwr, honnir iddi ladd mwy na 100 o ymladdwyr ISIS. Pan ddaeth ei stori i’r amlwg, fe greodd gynnwrf rhyngrwyd a ddaeth hi’n symbol o wrthwynebiad yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd a chafodd ei galw’n ‘Angel Kobane’. Nawr, mae’r stori chwedlonol hon yn dod i’r llwyfan yn nrama gwobrwyedig Henry Naylor,Angel.
Mae hwn yn archwiliad trawiadol o stori Angel, a hynny mewn cyfnod pan fo’r themâu yn dal yn berthnasol ac yn bresennol yn y gymdeithas fodern. Mae Angel yn addas ar gyfer y rheiny sy’n 14+ oed. Mae’r ddrama’n cynnwys iaith gref a golygfeydd trallodus a all fod yn annifyr i rai.
£15 (£13)