Theatr Pena: Woman of Flowers
Cyd-Gynhyrchiad Theatr Pena | Taliesin Arts Centre
gan SIÔN EIRIAN
gan ddilyn SAUNDERS LEWIS
Dyw Blodeuwedd ddim fel merched eraill. Fe’i consuriwyd o flodau gwyllt gan y dewin Gwydion a’i rhoi’n wraig berffaith i’r tywysog a’r rhyfelwr Lleu, ond mae gwylltineb natur yn rhan o’i gwead a phan ddeffroir ei nwydau synhwyrus mae’r canlyniadau yn rhai gwaedlyd a brawychus.
Mae Woman of Flowers yn addasiad barddonol cyhyrog o chwedl Blodeuwedd o’r Mabinogi gan yr awdur Cymraeg arobryn Sion Eirian, ac mae’n cyfuno elfennau o ddrama fydryddol enwog Saunders Lewis gyda deunydd gwreiddiol i greu ffantasi hudolus a thywyll.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru gyda chefnogaeth ychwanegol gan Curo Advisers Limited a’u partneriaid strategol.