Te prynhawn yn y Mwldan

Mwynhewch Te Prynhawn yn y Mwldan yr hydref hwn.

Rydym wrth ein bodd i gyflwyno ein Te Prynhawn newydd, gyda bwydlen sy’n newid bob wythnos, wedi'i pharatoi gyda chynhwysion ffres gan gyflenwyr lleol.

Bydd gennym bopeth o frechdanau bach clasurol a danteithion sawrus i gacennau a sgons blasus, ac mae opsiwn i ychwanegu at eich te prynhawn gyda gwydraid o prosecco oer!

Ymunwch â ni bob yn ail ddydd Iau ar gyfer y digwyddiad newydd hwn, sy’n cyd-fynd yn wych â’n dangosiadau prynhawn dydd Iau.

---------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

2.30pm - 5.00pm

£16.95 ( gyda te / coffi)

£20.95 ( gyda gwydraid o brosecco )

 

Bwydlen (10 Hydref)

 

Dyddiadau

26 Medi

10 & 24 Hydref

7 & 21 Tachwedd

5 & 19 Rhagfyr

 

Archebu'n ofynnol. I sicrhau eich archeb te prynhawn, gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu o leiaf 48 awr ymlaen llaw.

ARCHEBWCH YMA

Bydd opsiwn i ddweud wrthym am unrhyw ofynion dietegol wrth i chi archebu.

Yn anffodus ni allwn ddarparu ar gyfer coeliag.

Os hoffech archebu dyddiadau yn y dyfodol (wedi'i nodi isod), cysylltwch â'n swyddfa docynnau ar 01239 621200 / boxoffice@mwldan.co.uk

 

2:30pm - Dydd Iau, 10 Hydref

Browse more shows tagged with: