Synergedd: Alaw, VRï, Hannah James
Daw chwe dawn gerddorol aruthrol o Gymru a Lloegr ynghyd ar gyfer cydweithrediad unigryw ac arbennig a fydd yn mynd â’u hathrylith unigol i’r lefel nesaf gyda’i gilydd.
Mae ALAW, y “Welsh supergroup” (Songlines) yn dathlu cerddoriaeth draddodiadol Cymru gydag angerdd heintus, gan gyfuno cyfansoddi caneuon pwerus gydag alawon gwreiddiol.
Mae VRï wedi ennill yr Albwm Orau yng Ngwobrau Gwerin Cymru ddwywaith, ac yn asio prydferthwch tannau clasurol â hedoniaeth sesiwn dafarn, y cyfan wedi’u rhwymo â harmonïau lleisiol pwerus.
Mae Hannah James yn gerddor, yn gantores ac yn ddawnswraig gyfareddol, arloesol a ddisgrifiwyd fel “a true original” (The Guardian). A hithau’n enwog fel un o'r acordionyddion gorau ar y sîn werin ym Mhrydain, mae ei dawn gerddorol yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r traddodiad.
£17 (£15)