S A T O R U - Catrin Finch | Lee House
CYNHYRCHIAD Y MWLDAN
cerddoriaeth . meddwl . sain . emosiwn
Camwch i mewn i fyd lle mae sain yn troi’n deimlad, ac mae cerddoriaeth yn meiddio holi’r cwestiynau na all geiriau eu gofyn. Mae'r profiad trochol hwn yn asio telyn arbrofol, gweadau wedi'u trin yn electronig, a’r gair llafar mewn taith dywys trwy ddyfnderoedd canfyddiad ac emosiwn. Ni ddywedir wrthych beth i'w deimlo na'i feddwl - ond cewch eich gwahodd i deimlo popeth, i feddwl mewn dimensiynau newydd. Mae pob eiliad wedi'i chrefftio i'ch denu'n ddyfnach i ddirgelwch, gan ddiddymu ffiniau rhwng sain, hunan, a thawelwch mewn proses ddatod wedi'i saernïo'n ofalus. Nid oes modd addo beth fyddwch yn ei ddarganfod ar y diwedd - ond yn sicr ni fyddwch yr un fath.
£18 (£16)