JUSTIN ADAMS & MAURO DURANTE
Daw dau bencerddor o gefndiroedd gwahanol iawn at ei gilydd mewn deuawd grymus a chywrain gwobrwyedig, wedi’u huno gan ddiddordeb brwd mewn rhythmau perlewyg hynafol a’u rôl gyffredin mewn traddodiadau cerddorol sydd fel arall yn hollol wahanol. Yn ystod gyrfa ryfeddol y gitarydd, lleisydd, cynhyrchydd a chyfansoddwr Justin Adams, mae wedi symud o ôl-pync i hen gerddoriaeth y blues, cerddoriaeth Arabia ac Affrica, ac wedi cydweithio â Jah Wobble, Tinariwen a Robert Plant. Mae’r lleisydd, y feiolinydd a’r offerynnwr taro Mauro Durante yn fwyaf adnabyddus fel arweinydd y band syfrdanol Canzoniere Grecanico Salentino a’i waith gyda Ludovico Einaudi, ac mae’n arbenigwr mewn taranta a phizzica (cerddoriaeth werin wefreiddiol de’r Eidal). Enillodd y ddeuawd wobr ‘Best Fusion Artist’ cylchgrawn Songlines yn 2022, ac mae eu halbwm cyntaf Still Moving yn cyfuno’r Magreb, anialwch y Sahara a’r delta blues gydag alawon Môr y Canoldir, taranta Puglia a soul roc.
£18 (£17)