ILLYRIA: THE GONDOLIERS
YM CYMRYD LLE YNG NGHASTELL ABERTEIFI
HYRWYDDIR AR Y CYD GAN Y MWLDAN A CASTELL ABERTEIFI
A hithau wedi’i gosod yn Fenis hardd, bydd yr opereta ysgafn hon yn eich cludo i fyd o ramant ddedwydd, dychan pigog ac anhrefn comedïaidd. Yn sydyn, caiff dau gondolier dymunol, Marco a Giuseppe eu dyrchafu i statws brenhinol. Mae’r ddau ohonynt yn cael y dasg o ddewis eu Brenhines o blith llu o ferched hardd, gan arwain at ddoniolwch pan mae’r Frenhines go iawn yn cyrraedd a mynnu gwybod pa un o'r dynion yw ei gŵr hi. Wrth i'r plot gymhlethu a'r abswrdiaeth gyrraedd ei hanterth, mae cariad yn trechu, a'r gondoliers yn darganfod bod hapusrwydd i’w gael nid mewn teitlau bonheddig, ond yn hytrach mewn symlrwydd gwir gariad. Mae geiriau ffraeth Gilbert ac alawon bachog Sullivan yn dod yn fyw yn fedrus dan ofal Illyria, sydd wedi bod yn swyno cynulleidfaoedd ledled y byd am fwy na deng mlynedd ar hugain. Caiff ‘The Gondoliers’ ei pherfformio yn yr awyr agored, gan addo noson hudolus o chwerthin, cerddoriaeth, a bydd yn eich gadael â chân yn eich calon. Gydag amseru comedïaidd rhagorol a pherfformiadau afieithus dyma i chi gynhyrchiad Illyria na ddylid ei golli.
Amser rhedeg: (tua) 140 munud (gan gynnwys egwyl o 20 munud).
Addas i bob oed.
£18 (£16 Concession) (£10 Plant)