Huw Stephens yn Cyflwyno / Presents
YN CYMRYD LLE YNG NGHASTELL ABERTEIFI
Hyrwyddiad ar y cyd gan Theatr Mwldan | Castell Aberteifi
Drysau: 6.30pm
Serol Serol - 7.30pm - 8.15pm
Omaloma - 8.30 - 9.20pm
Gwenno - 9.45 - 10.45
Setiau DJ gan Huw Stephens rhwng actau byw.
Bydd DJ Huw Stephens (BBC Radio 1 a BBC Radio Cymru) yn cyflwyno noson anhygoel o gerddoriaeth o Gastell Aberteifi. Yn frwdfrydig am fandiau newydd a seiniau amgen, mae Huw yn adnabyddus am gefnogi’r sîn gerddoriaeth Gymraeg, gan gychwyn ei ŵyl gerddorol flynyddol ei hun, Sŵn yng Nghaerdydd a hyrwyddo Dydd Miwsig Cymru led led y DU.
Daw Huw â chriw a ddewiswyd yn arbennig ganddo i’r Castell, gyda’r rhagorol Gwenno, enillydd Gwobr Cerddoriaeth Gymraeg a ffefryn ar 6Music yn arwain, gyda’r bandiau pop electronig Omaloma a Serol Serol yn cefnogi, yn ogystal â set DJ gan Huw ei hun.
GWENNO
Mae Gwenno’r gantores-ysgrifennwr caneuon Cymreig yn arwain, yn dilyn rhyddhau ei halbwm diweddaraf Le Kov, “Mae’n ymwneud â gorfod derbyn a pharchu’r pethau bach sy’n ein gwahaniaethu i gyd yn ac am ddarganfod fod ein holl straeon yn rhannu’r un gwirionedd.”
Mae Le Kov yn dilyn ei halbwm Gymraeg mawr ei glod gan y beirniaid, sef Y Dydd Olaf (a enillodd Wobr Gerddoriaeth Gymraeg a’r Albwm Cymraeg Gorau yn Eisteddfod Genedlaethol 2015). Yn debyg i Y Dydd Olaf, mae’n ddatganiad eofn am bwysigrwydd gwarchod ieithoedd lleiafrifol. Caiff caneuon Le Kov eu canu’n gyfan gwbl yng Nghernyweg, ‘tad’ iaith Gwenno. Cafodd ei greu ynghyd â’i chydweithredwr hirdymor Rhys Edwards, gyda pheirianneg drymiau ychwanegol gan Gorwel Owen (Gorky’s Zygotic Mynci, Super Furry Animals) a chymysgu a rhaglennu ychwanegol gan David Wrench.
Mae Le Kov sy’n golygu Lle’r Cof yn creu dogfen o iaith fyw, i archwilio ei hunaniaeth ei hun a phosibiliadau creadigol di-ben draw iaith sydd wedi bodoli ers 15 canrif.
OMALOMA
Prosiect 'space pop' George Amor a Llyr Pari o fynyddoedd Eryri.
SEROL SEROL
Dwy gyfnither o Ddyffryn Conwy yw Serol Serol. Maent wedi bod yn gweithio yn agos gyda George Amor a Llyr Pari o Omaloma i greu ‘Space Pop’ hydolys.
Yn addas i 12+, Cynghorir disgresiwn rhieni