Daoirí Farrell
Caiff y cantor a’r chwaraewr bouzouki Daoirí (caiff ei ynganu fel Derry) Farrell ei ddisgrifio gan rai o enwau mwyaf yng ngherddoriaeth werin Iwerddon fel un o’r cantorion pwysicaf i ddod o Iwerddon yn y blynyddoedd diwethaf. Chwe mis ar ôl rhyddhau’r albwm ‘True Born Irishman’, enillodd Daoirí ddwy wobr glodfawr yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2 2017 ar gyfer y Newydd-ddyfodiad gorau, a’r Trac Traddodiadol Gorau a pherfformiodd yn y seremoni gwobrwyo yn Neuadd Frenhinol Albert, Llundain. Ers hynny, mae wedi teithio’r DU ddwywaith, ac wedi chwarae yng ngwyliau yn Awstralia, Canada, y DU, Gwlad Belg, Denmarc ymhlith eraill. Ym mis Chwefror 2018, teithiodd gyda’r Translatlantic Sessions i brif ganolfannau yn y DU. Mae’r dilyniant i ‘True Born Irishman’ allan yn yr hydref 2018.
£14 (£13) £3