CARWYN
Cwmni Theatr y Torch yn cyflwyno: Carwyn
Ysgrifennwyd gan Owen Thomas
Cyfarwyddwyd gan Gareth John Bale
Yn serennu – Simon Nehan fel Carwyn James
Drama newydd sbon yw Carwyn am fywyd Carwyn James. Wedi ei hysgrifennu gan Owen Thomas, yr awdur gwobrwyedig am ei gynhyrchiad poblogaidd gan Theatr y Torch sef, ‘Grav’, mae’r ddrama’n archwilio bywyd dyn wnaeth gael effaith anghredadwy, parhaol ar ei famwlad.
Yn ddyn wnaeth addoli chwaraeon, diwylliant, gwleidyddiaeth, a Chymru, cafodd Carwyn James yrfa wnaeth gynnwys popeth o addysgu i ddarlledu i hyfforddi ac ysbïwriaeth. Hyd heddiw, mae’n parhau’r unig Hyfforddwr i greu cyfres o fuddugoliaethau ar gyfer y Llewod Prydeinig yn erbyn y Crysau Duon. Bydd Carwyn yn ceisio datrys yr enigma o ddyn aml-haenog. Dyn o flaen ei amser. Dyn a oedd ar ben ei hun mewn tyrfa. Dyn nad oedd yn esmwyth yn ei groen ei hun.
Wedi ei chyfarwyddo gan Gareth John Bale (seren ‘Grav’) ac yn serennu Simon Nehan fel Carwyn James, edrycha’r ddrama hon ar fywyd dramatig eicon diwylliannol Cymreig wnaeth adael y cae chwarae yn llawer rhy gynnar.
£15 (£13)