ARÁN AGUS IM

Gan Manchán Magan

Cynhyrchwyd gan Once Off Productions

Cefnogwyd gan Culture Ireland

Mae angen i ni ddod o hyd i ffordd o siarad am yr iaith Wyddeleg - am harddwch dyrchafedig ac hynodrwydd dwys yr iaith hynafol hon sydd wedi cael ei siarad ar yr ynys ers 2,500 i 3,000 o flynyddoedd, ac sydd bellach yn llithro'n araf o'n gafael. 

Pa air all ddisgrifio unigrwydd buwch sydd wedi colli ei llo, diadhánach, ein haddysgu ni am ein dulliau presennol o gynhyrchu bwyd?

Pam fod angen cyfeirio'ch hun at yr haul i roi cyfarwyddiadau yn y Wyddeleg?

I ba raddau y mae'r Arallfyd wedi'i wreiddio mewn geiriau am ganser?

Beth yw’r gair am y sŵn a wna ceffylau pan fyddant yn cyfarfod ar ôl gyfnod hir?

Mae Arán Agus Im yn berfformiad theatraidd lle mae Manchán Magan yn pobi bara surdoes tra’n cynnig cipolwg i ryfeddodau’r Wyddeleg – gan archwilio geiriau grymus y dirwedd, termau greddf a chraffter, a’r ymadroddion niferus sy’n dod â gogoniant dirgel ein byd naturiol yn fyw. Mae’r sioe yn ddathliad o iaith, tir a bwyd Gwyddelig lleol, gyda bara surdoes traddodiadol wedi’i bobi’n ffres i’r gynulleidfa ei dafellu a’i daenu â menyn y maen nhw’n ei gorddi eu hunain o hufen Iwerddon. (Nid oes angen deall Gwyddeleg).

Digwyddiad agos atoch lle gwahoddir y gynulleidfa i gymryd rhan fydd hwn, ac felly mae capasiti yn gyfyngedig. Rydym yn argymell bwcio’n gynnar i osgoi cael eich siomi 

£15

Tîm Creadigol

Ysgrifennwyd a Pherfformiwyd gan: Manchán Magan

Cyflwynwyd a Chynhyrchwyd gan: Once Off Productions

Cefnogir yn hael gan: Culture Ireland

Cynllunio: Tom de Paor

Cynhyrchwyr:  Sadhbh Barrett Coakley a Maura O'Keeffe

Cynorthwy-ydd Cynhyrchu: Morgan Steele

Adeiladwaith: Barry Rogerson

Gwisgoedd: Hazel McCague

Ariennir gan Culture Ireland a Chyngor Celfyddydau Iwerddon

Cynhyrchwyd yn wreiddiol mewn cydweithrediad ag Abbey Theatre a chyllid gan Foras na Gaeilge

Browse more shows tagged with: