Cardigan Theatre Panto: Cinderella

Ymunwch â Theatr Aberteifi ar gyfer y Pantomeim gorau oll, Cinderella! 

Mae Cinderella’n dymuno gadael ei bywyd diflas fel morwyn i’w llysfam greulon a’i chwiorydd hyll, ond pan mae’r tywysog yn cyhoeddi ei fod yn mynd i gynnal dawns frenhinol er mwyn dod o hyd i wraig, efallai y caiff hi ei dymuniad wedi’r cyfan! 

Gydag ychydig o help gan ei Dewines Garedig a'i ffrind gorau Buttons, a allai hi wireddu ei breuddwydion a byw'n hapus byth wedyn? 

Cewch hwyl a sbri yn y pantomeim mwyaf hudolus oll, yn cynnwys caneuon hen a newydd, dawnsio disglair, jôcs ofnadwy, slapstic doniol a llawer o gyfranogiad gan y gynulleidfa. 

Gyda thalent leol o Aberteifi a thu hwnt, fe gewch chi fynd i’r ddawns eleni gyda'r pantomeim teuluol ysblennydd hwn! Mae'r cloc yn tician, felly archebwch eich tocynnau yn gyflym!

£10

Hyrwyddir gan | Promoted by Cardigan Theatre