CÔR MEIBION PENDYRUS | PENDYRUS MALE CHOIR
HYRWYDDIR GAN: Côr Meibion Pendyrus
Fe ffurfiwyd Côr Meibion Pendyrus ym 1924 ym Mhendyrus yn y Rhondda Fach. Heddiw mae gan y Côr dros 80 o aelodau ac mae wedi canu o gwmpas y byd gan dderbyn canmoliaeth frwd. Mae wedi teithio yn Awstralia, Seland Newydd, UDA, Canada, a nifer o wledydd Ewrop. Ieuan Jones yw’r Cyfarwyddwr Cerddorol a Gavin Parry yw’r Cyfeilydd. Mae Pendyrus yn enw sy’n cynnwys dwy ran, sef ‘pen’, sy’n golygu brig neu grib, a ‘dyrus’, tir garw nad yw’n hawdd ei drin - enw ar fferm a fodolaiar un adeg, cyn dyfodiad diwydiannu, uwchben y dyffryn sy’n gartref i’r côr.
£15