RSC: The Tempest (12A)
Mae Simon Russell Beale yn dychwelyd i’r RSC ar ôl 20 mlynedd i chwarae Prospero yn y cynhyrchiad arloesol hwn wedi ei gyfarwyddo gan y Cyfarwyddwr Artistig Gregory Doran.
Ar ynys bellennig mae dyn yn aros. Wedi ei amddifadu o’i safle, ei awdurdod a’i gyfoeth, mae ei elynion wedi ei arunigo. Ond nid dyn cyffredin mohono, ac nid ynys gyffredin mohoni. Mae Prospero yn hudolwr, sy’n medru rheoli’r tywydd a gwyro natur yn ôl ei ewyllys. Pan mae hwyl yn ymddangos ar y gorwel, mae’n ymestyn allan ar draws y cefnfor i’r llong sy’n cario’r dynion a wnaeth ei gam-drin. Gan greu storm, mae’n llongddryllio’r llong a golchi’r dynion i’r lan. Ar ddeffro, maent yn darganfod eu bod ar goll ar ynys ryfeddol lle nid yw unrhyw beth fel yr ymddengys.
Mewn partneriaeth unigryw gydag Intel, bydd y cynhyrchiad yn defnyddio’r dechnoleg fwyaf modern yr oes mewn ailwampiad eofn o ddrama hudol Shakespeare, gan greu profiad theatraidd bythgofiadwy.