ROH: Il Trovatore (Verdi)
DIGWYDDIADAU DARLLEDU BYW MEWN MANYLDER UWCH WEDI SGRINIO TRWY LOEREN O DŶ OPERA BRENHINOL COVENT GARDEN LLUNDAIN
Mae tân ac eira yn y tirlun yn adleisio creulondeb a chariad yn y stori: mae milwyr a sipsiwn yn gwrthdaro, mae mam yn datgelu gwirionedd ofnadwy ac mae dau ŵr yn ymladd i‘r pen dros un fenyw. Mae’r Corws Anvil enwog ond yn un o uchafbwyntiau cerddoriaeth hynod goeth Verdi, sy’n cipio emosiynau newidiol y ddrama trwy ddeuawdau caru angerddol, unawdau tanllyd a chorysau cyffrous. Gyda’r sêr rhyngwladol Vitaliy Bilyy, Anita Rachvelishvili, Lianna Haroutounian a Gregory Kunde.
£16 (£15)
![](https://mwldan.wales/sites/default/files/styles/logo/public/logos/ROH_CinemaSeasonTT_2016-17_stackPOS_1.jpg?itok=C0h3rQ8D)