THE PHANTOM OF THE OPERA AT THE ROYAL ALBERT HALL (PG)

Mae The Phantom Of The Opera gan Andrew Lloyd Webber yn ffenomen adloniant byd-eang. Mae wedi cael ei llwyfannu mewn 145 o ddinasoedd ar draws 27 o wledydd ac mae ei gwerthiannau swyddfa docynnau wedi rhagori Avatar, Titanic a Star Wars. I ddathlu ei phen-blwydd yn 25 oed, cyflwynwyd The Phantom Of The Opera gan Cameron Mackintosh mewn cynhyrchiad moethus wedi’i lwyfannu’n gyflawn a’i osod yn ysblander Fictoraidd godidog y Royal Albert Hall. Mae Phantom Of The Opera At The Albert Hall yn cynnwys Ramin Karimloo fel 'The Phantom' a Sierra Boggess fel 'Christine'. Yn ymuno â nhw mae cast a cherddorfa o dros 200, ynghyd â rhai ymddangosiadau gwadd arbennig iawn.

£16 (£15)