Oklahoma! (12A AS LIVE)
O, am ddiwrnod hyfryd! Ym mis Gorffennaf eleni, mae hud ac egni theatr fyw yn dod i sinemâu ledled y byd gyda chynhyrchiad clodwiw y National Theatre, a enillodd Wobr Olivier, o Oklahoma gan Rodgers & Hammerstein! Yn ymddangos yn rôl Curl mae Hugh Jackman (Les Misérables, The Greatest Showman) a oedd yn enw newydd ar y pryd, ochr yn ochr â Maureen Lipman, Josefina Gabrielle a Shuler Hensley. Ffilmiwyd y cynhyrchiad llwyfan hynod afaelgar hwn yn ystod ei rediad arloesol ym 1998 yn Llundain. Gydag arwr y theatr Trevor Nunn (CATS, Les Misérables) yn cyfarwyddo, a choreograffi newydd gan Susan Stroman, mae Oklahoma! yn cynnwys rhai o ganeuon mwyaf hoffus y theatr gerdd, gan gynnwys “Oh, What a Beautiful Mornin’,” “The Surrey With The Fringe On Top” a’r dôn deitl lawen, “Oklahoma”. Bellach mae un o’r sioeau cerdd mwyaf annwyl y llwyfan yn dod i’r sgrin fawr 80 mlynedd ar ôl iddi ymddangos am y tro cyntaf ar Broadway. Casglwch eich ffrindiau a brysiwch i’ch sinema leol!
£16 (£15)