NT Live: Hansard (12A)
by Simon Wood
Hansard; enw
Cofnod swyddogol yr holl ddadleuon seneddol.
Gwyliwch Lindsay Duncan (Birdman, About Time) ac Alex Jennings (The Lady in the Van, The Queen), sydd wedi ennill Gwobr Olivier ddwywaith, yn y ddrama newydd sbon hon gan Simon Wood, wedi ei darlledu’n fyw o’r National Theatre yn Llundain.
Mae’n fore o haf ym 1988 ac mae’r gwleidyddwr Ceidwadol Robin Hesketh wedi dychwelyd adref i’r tŷ hyfryd yn y Cotswolds mae’n ei rannau gyda’i wraig o 30 mlynedd, Diana. Ond nid yw popeth mor berffaith ag y mae’n ymddangos. Mae Diana yn dioddef o effaith yfed gormod o alcohol, mae cadno yn difetha’r ardd, ac mae cyfrinachau’n cael eu dinoethi ym mhob man. Wrth i’r dydd fynd yn ei flaen, mae’r hyn sy’n cychwyn fel tynnu coes ysgafn a rhythmau cyfarwydd ymgecru priodasol yn troi’n waedlyd yn gyflym.
Peidwich â cholli’r portread ffraeth a dinistriol o’r dosbarth llywodraethol, wedi ei gyfarwyddo gan Simon Godwin (NT Live: Antony & Cleopatra, Twelfth Night) fel rhan o dymor y National Theatre Live yn 10 mlwydd oed.
£12.50 (£11.50)