MISS SAIGON 25TH ANNIVERSARY SHOW (15)

Mae'r Perfformiad Mawreddog hynod lwyddiannus hwn i ddathlu 25 mlynedd o’r sioe ysblennydd hon hefyd yn cynnwys ymddangosiadau gan y cast gwreiddiol gyda Jonathan Pryce a Lea Salonga yn eu plith. Disgrifiwyd y cynhyrchiad clodwiw hwn fel “the most thrilling, soaring and emotionally stirring musical with magnificent performances” gan y Daily Telegraph a “the greatest musical of all time” gan y Daily Mail. Mae’r stori ramant epig hon yn adrodd hanes trasig Kim, merch ifanc sy’n gweithio mewn bar, sydd wedi’i hamddifadu gan y rhyfel, ac sy’n syrthio mewn cariad gyda Chris, milwr o America - ond caiff eu bywydau eu rhwygo ar led yn dilyn cwymp Saigon.

£16 (£15)